Y ferch o blwy Penderyn (The Girl from Penderyn Parish)

St Cynog’s Church, Penderyn, Breconshire

Another regretfully infrequent occurrence of Welsh music this week. Here it is performed by the singer Meredydd Evans, whose album Traditional Welsh Songs was a landmark recording in Welsh folk music.

Y ferch o blwy Penderyn

‘Rwy’n caru merch o blwyf Penderyn, ac yn ei chanlyn ers lawer dydd ;
Ni allwn garu ag un ferch arall, er pan welais ‘run gron ei grudd.
Mae hi’n ddigon hawdd ei gweled, er nad yw ond dyrnaid fach ;
Pan elo i draw i rodio’r caeau, fy ‘nghalon glaf hi wna yn iach.

Pan o’wn i’n myned ar ryw fore yn hollol ddiflin tua’m gwaith,
Mi glywn aderyn ar y brigyn yn tiwnio’n ddiwyd ac yn faith,
Ac yn d’wedyd wrthyf innau, “Mae’r ferch wyt ti’n ei charu’n driw
Yn martsio’i chorff y bore fory tua rhyw fab arall, os bydd hi byw.”

‘Rwy’n myned heno, dyn am helpo, i ganu ffarwel i’r seren syw ;
A dyna waith i’r clochydd fory fydd torri ‘medd o dan yr yw !
A than fy enw’n ‘sgrifenedig ar y tomb wrth fôn y pren,
Fy mod i’n isel iawn yn gorwedd yng ngwaelod bedd o gariad Gwen.

Continue reading